The Unicycle Diaries is my first book for young adults. Scroll down to read the first chapter translated into Welsh, or click here to go to the English version.
Nid yw Gita bob amser yn ei ddeall, nid yw Holly am siarad am y peth, ond nid yw’n broblem i Fiona yn ôl pob golwg, ac mae Becca yn dweud nad yw’n cael digon ohono.
Mae Dave yn meddwl ei fod yn gwybod beth mae merched yn ei hoffi, ond nid yw Ollie fel petai’n gwybod eu bod yn bodoli. Mae llygaid llo Barry yn golygu ei fod o hyd mewn helynt, tra bod y merched yn anwybyddu Ed yn llwyr.
Dyma hynt a helynt wyth o ffrindiau yn eu byd o ddêts, partïon, sinemâu a bwytai sushi, colli ac ailennill cariad, ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd dosbarth a chwpwrdd sychu wrth iddynt geisio gwneud synnwyr o sut i fynd y tu hwnt i ‘reidio’r beic un olwyn’.
Pedwar bachgen, pedair merch, dim syniad…dim dyfodol!
Pennod 1
“Condoms,” meddai’r athro, “yw’r ffordd orau o ddiogelu eich hun rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol YN OGYSTAL Â mynd yn feichiog yn anfwriadol.”
Cododd Ollie ei ben, wedi’i synnu gan y ffaith fod yr athro wedi codi’i lais, ond sylweddolodd nad oedd mewn unrhyw drafferth ac aeth yn ôl i dynnu wyneb ar y banana. Byddai Ed wedi ei atal rhag gwneud hyn fel arfer, ond roedd yn rhy brysur yn canolbwyntio ar y daflen waith o’i flaen.
‘Rhyw!’ meddyliodd Ed. Nid oedd unrhyw fathemateg mewn rhyw ac roedden nhw eisoes wedi trafod yr elfen fioleg mewn gwyddoniaeth. Nid oedd hyd yn oed prawf, felly nid oedd modd adolygu ar ei gyfer. Aeth Ed i’r afael â’r broblem drwy ychwanegu nodiadau ar y daflen waith yn ei lawysgrifen orau.
‘Efallai bydd angen hwn arna i,’ meddyliodd, ‘efallai bydd prawf wedi’r cwbl.’
Dechreuodd yr athro rannu’r condomau ac roedd llawer o siarad a sŵn wrth i bob pâr fachu eu pecyn.
“Peidiwch â’u hagor eto!” meddai’r athro. “Fe wnawn ni eu hagor gyda’n gilydd.”
Ar ochr arall yr ystafell, crychodd Becca ei hwyneb a phwyntio’r banana at Gita fel pe bai’n ddryll.
“Dwylo lan, y diawl’!”
“Wrth gwrs, beth bynnag ti’n ei ddweud!” meddai Gita, gan godi ei dwylo yn esgus ei bod mewn panig. “Paid â fy … mwydo i?”
Rhoddodd yr athro gondom o’u blaenau ac edrychodd y merched arno.
“Ti erioed wedi agor un o’r rhain?” gofynnodd Gita.
“Beth, condoms?… Wrth gwrs mod i!” meddai Becca yn llawn celwydd. “Mae’n hawdd, oni bai dy fod mewn twb poeth ac mae dy fysedd fel eirin sych ar ôl bod yn y dŵr poeth.”
“Ie, wrth gwrs,” meddai Gita.
Roedd hi’n gwybod mai rhannu pwll padlo gyda hi pan oedden nhw’n bump oed oedd yr agosaf i Becca fod mewn twb poeth erioed.
‘O bois bach!’ meddyliodd Becca, ‘gobeithio na fydda i’n gwneud smonach o hyn.‘
Edrychodd draw at ble’r oedd y bechgyn yn eistedd.
‘O leia dwi’n gwneud yn well nag Ed!‘ meddyliodd.
Ni allai Ollie feddwl am ffordd waeth o ddechrau ei ddydd Llun na chael gwers Addysg Rhyw. Dim hynny oedd wedi’i nodi ar yr amserlen, ond dyna beth oedd hi mewn gwirionedd. Addysg Rhyw. Sex. Ed.
‘Aros funud,’ meddyliodd. ‘Sex. Ed…Sexual Edward. “Gwych”
“Iawn, Sex Ed?” gofynnodd yn ddidaro wrth iddo ychwanegu modrwyau a stydiau clustiau ar y banana.
“Ie… allwn i ddim fod yn well,” atebodd Ed, wrth iddi ganolbwyntio’n llwyr ar y daflen waith.
“Ok, Sex Ed, dim ond gwneud yn siŵr dy fod yn iawn Sexy Ed.”
“Ollie!” meddai Ed wrtho yn ei ddwrdio wedi iddo sylweddoli erbyn hyn beth oedd wedi’i ddweud.
“Beth sy’n bod, Sex Ed?” ychwanegodd Ollie, gan droi ato.
“Ollie, paid!” sibrydodd Ed.
“Ddrwg gen i,” atebodd Ollie, “ond mae angen i ti sylweddoli dy fod yn gallu bod, ar adegau, yn berson hynod rywiol!”
Ochneidiodd Ed wrth i Ollie afael yn ei feiro a thynnu locsyn o gwmpas y clustiau ar y banana.
“Efallai dylen ni argraffu rhywfaint o grysau-t. RYDW I GYDA SEX ED, gyda saeth wrth ei ymyl,” ychwanegodd Ollie gan bwyntio at ei frest i ddangos ble fyddai’r geiriau. “Efallai bydd hynny’n arwain at werthu persawr gyda dy enw arno…diod ynni?… ac os yw’n mynd yn arbennig o dda, efallai dy sioe sgwrsio dy hun!”
Edrychodd Ollie ar y banana a meddyliodd am ba enw i’w roi i’w ffrind newydd.
“Bobi’r Banana?” dywedodd yn dawel cyn ychwanegu blew ar ei wyneb. “Neu efallai… Baron Friedrich von Four-Skin? ”
“Edward ac Oliver!” gwaeddodd yr athro. “Hoffech chi esbonio wrth y dosbarth pam eich bod wedi difetha eiddo’r ysgol drwy dynnu llun ar eich banana?”
Bu distawrwydd wrth i’r disgyblion eraill aros yn eiddgar i weld faint o drafferth roedd y bechgyn ynddi.
“Wel?” gofynnodd yr athro.
“Nid fi wnaeth…” meddai Ed yn baglu dros ei eiriau.
“Dwi’n gwybod, Edward,” meddai’r athro. “Mae inc dros ddwylo Oliver..ac mae’n gafael yn y beiro …a’r banana.”
Rhoddodd Ollie y banana i lawr, rhoddodd y caead ar y beiro a chuddiodd ei ddwylo o dan y ddesg. Roedd Gita yn dymuno y gallai ei helpu rywsut, tra bod Becca yn tynnu ystumiau ar y bechgyn y tu ôl i gefn yr athro.
“Unrhyw beth i’w ddweud, Oliver?” gofynnodd yr athro.
“Dwi ddim yn gwybod,” atebodd. “Dim ond meddwl hynny gan fy mod i fel arfer yn esgus bod banana yn. … …”
“Yn bidyn?” awgrymodd yr athro, a chwarddodd y dosbarth. “Byddwch ddistaw, bawb! Gadewch i Oliver orffen, os gwelwch yn dda.”
“Wel…ie, fel arfer byddwn yn esgus bod banana yn … un o’r rheiny, ond gan ein bod yn esgus ei fod yn un o’r rheiny, nes i feddwl y baswn yn esgus ei fod yn rhywbeth arall?”
Roedd pawb wedi’i syfrdanu gan beth oedd gan Ollie i’w ddweud. Am unwaith, roedd bron wedi gwneud rhyw fath o synnwyr.
“Os gwelwch yn dda, PEIDIWCH â gwneud lluniau ar eich bananas,” meddai’r athro. “Mae angen i ni eu hail-ddefnyddio ar gyfer dosbarth arall.”
“Ych a fi!” gwaeddodd Becca. “Pidyn banana ail law!”
“Diolch, Rebecca!” meddai’r athro wrth i’r dosbarth chwerthin yn uchel. “Dyna ddigon.”
‘26 munud a 44 eiliad,’ meddyliodd yr athro gan edrych ar y cloc, ‘a bydd y cyfan drosodd am wythnos arall.‘
“Yn eich parau, rydw i am i chi geisio rhoi’r condom ar y banana,” meddai’r athro. “Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a siarad â’ch gilydd amdano.”
+++
Aeth y dosbarth yn dawel ac aeth ambell i bâr profiadol o ddwylo ati i roi’r condomau ymlaen yn fedrus.
“Cael trafferth, Oliver?” gofynnodd yr athro.
Er ei fod yn gwneud ei orau glas, nid oedd Ollie yn gallu rholio’r condom i lawr dros y banana.
“Dim ond cymryd fy amser. Mae hynny’n bwysig pan mae gennych ddarn o ffrwyth rydych wir yn ei hoffi.”
“Ydy, fe wnaethon ni sôn am hynny,” meddai’r athro, “ond rwyt ti hefyd wedi rhoi’r condom ymlaen… y tu chwith allan?”
“O… ydw i?” meddai Ollie, gan ddechrau colli ei dymer.
Pwyntiodd yr athro at y daflen waith lle’r oedd diagram o gondom a’r geiriau:
Mae condomau wedi’u gwneud fel bod modd eu rholio lawr yn hawdd.
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn eu rhoi y tu chwith allan!
“Edward, fedri di ddangos i Oliver sut mae gwneud hyn, os gweli di’n dda?” gofynnodd yr athro, gan ail-rolio’r condom.
“Ym… iawn…” meddai Ed, wrth i’r athro symud yn ei flaen.
“Diolch, Sexy Ed,” sibrydodd Ollie.
“Cau dy ben, Ollie!”
Ar ôl i Ed roi’r condom ymlaen, penderfynodd fynd ati fel pe bai e’n gwneud un o’i awyrennau model. Dilynodd y cyfarwyddiadau a mynd yn ei flaen.
+++
“Ti’n mynd i ddangos i mi sut i’w wneud?” gofynnodd Gita, gan edrych ar y condom o’u blaen.
“Ym … na,” atebodd Becca. “Dwi’n meddwl bod angen yr ymarfer arnat ti; cei di fynd gyntaf.”
‘Ok,’ meddai Gita, gan anadlu’n ddwfn.
Rhwygodd y pecyn yn ofalus ar hyd un ochr a thynnodd y condom allan. Roedd ei ymylon crwn wedi’u rholio yn atgoffa Gina o pan oedd hi’n fach ac yn eistedd yn y gwasanaeth yn yr ysgol, yn rholio ei sanau i lawr ei choesau fel eu bod yn gylchoedd perffaith o ffabrig o amgylch ei dwy ffêr.
“Dere ‘mlaen, Bex,” meddai, gan roi’r banana iddi i’w ddal, “nid tasg i un person yn unig yw hon.”
“Iawn, os oes rhaid i mi,” atebodd Becca.
‘Y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw copïo Gina,’ meddyliodd.
Gwasgodd Gina ben blaen y condom, ei osod ar ran uchaf y banana, a’i rolio i lawr yn araf. Roedd hi’n meddwl y byddai’n… wel, nid oedd yn gwybod mewn gwirionedd, ond nid oedd hi wedi meddwl y byddai mor hawdd â hynny.
“Ar ôl i’r person cyntaf roi cynnig arni,” meddai’r athro, “rholiwch y condom yn ôl i fyny er mwyn i’r ail berson gael cyfle.”
“Dy dro di,” meddai Gita, wrth iddi dynnu’r condom.
‘Dyw e ddim yn edrych yn rhy anodd,’ meddyliodd Becca. ‘Os yw Gita yn gallu ei wneud, dylwn innau hefyd.‘ Dechreuodd Becca rolio’r condom i lawr, ond tynnodd un ochr yn fwy na’r llall. Llithrodd o’i gafael ac ar y ddesg.
“Rydw i wedi arfer â rhai mwy hyblyg!”
“Dwi’n gweld,” atebodd Gita. Pam na allai Becca gyfaddef nad oedd hi’n gwybod dim mwy na hi?
“Iawn, dyma ni,” meddai Becca, gan roi’r condom yn ei le unwaith eto a’i rolio i lawr yn ofalus.
“Wedi gorffen,” meddai, a rhoddodd Gita y banana gyda’r condom arno o flaen eu desg.
‘Wow,‘ meddyliodd Becca, ‘roedd honno’n un agos!’
+++
“Wel am wers ddiflas,” cwynodd Becca.
“Sain siŵr,” atebodd Gita, “ro’n i’n meddwl ei bod yn ok.”
“Ie, ro’n i’n meddwl ei bod yn iawn hefyd,” cytunodd Ed.
“Wel, dwi eisoes yn gwybod am hyn o gyd,” meddai Becca, “felly roedd mynd trwy’r cyfan eto yn ddiflas.”
Wrth i Becca blygu i lawr i nôl ei bag, edrychodd Gita ac Ed ar ei gilydd. Roedd cytundeb answyddogol rhwng ei ffrindiau nad oedd modd credu gair yr oedd Becca yn ei ddweud.
Edrychodd Gita ar Ollie, oedd gyda’r athro. Roedd hi’n gobeithio y byddai rhywun yn sôn am y dosbarth yn ystod amser cinio, er mwyn iddi glywed ei farn ef amdano.
+++
“Beth oedd eich barn am y dosbarth?” gofynnodd yr athro.
“Ie, hawdd iawn,” atebodd Ollie.
“Ond fe ges ti rywfaint o drafferth gyda’r gweithgareddau?”
“Chi’n cael trefn ar bethau fel hyn yn y pen draw, fyddech chi ddim yn cytuno?” meddai Ollie.
Roedd wedi sylweddoli, cyn belled nad oedd yn mynd dros ben llestri, roedd y rhan fwyaf o’r athrawon yn derbyn ei fod yn un sy’n hoffi tynnu coes.
“Rwy’n gwybod efallai nad ydych eisiau clywed na thrafod hyn, ond mae angen i chi roi sylw i rai pethau, ac mae hwn…” meddai’r athro, yn ysgwyd y blwch mawr o gondomau,”… yn un ohonyn nhw.”
“Ie, mae’n siŵr eich bod yn iawn,” atebodd.
“Oliver, pan fyddi’n cael rhyw am y tro cyntaf, a fydd Edward yno i dy helpu i roi’r condom ymlaen?”
“Yyy… efallai?” meddai Ollie, wrth iddo feddwl am y cwestiwn. “Na fydd, dwi’n ei feddwl! Na, fydd e’n bendant ddim yno.”
“Dyna oeddwn i’n ei feddwl,” meddai’r athro gan wenu. “Pan fyddi di’n cael rhyw, fyddai hi ddim yn braf gwybod dy fod yn ddiogel? Er mwyn i ti allu ei fwynhau?”
“Byddai, mae’n debyg,” meddai Ollie, yn swil.
Canodd y gloch a gwenodd yr athro arno.
“Mae angen i ti fynd i dy wers nesaf, ond rydyn ni yma i wrando a helpu os hoffet ti siarad am unrhyw beth unrhyw bryd.”
Rhoddodd Ollie ei fanana gyda’r rhai eraill yn y blwch.
“Dwi’n meddwl y byddai’n well i ti gadw dy fanana.”
“Wir?… Diolch,”meddai Ollie, ac edrychodd ar ei fanana. “Dere, Bili Banana! Dwi’n mynd i wneud het ar dy gyfer gyda chwpan papur!”
‘Coffi,’ meddyliodd yr athro. ‘Mae angen coffi arna i, yn bendant.’
Click here to buy The Unicyle Diaries in paperback and eBook
Praise for The Unicycle Diaries
“I’m really proud of my son, his book is fantastic.“
– Mike’s mum
“Thanks for you email Mr. Reed, unfortunately we don’t feature content sent to us by persons seeking to promote their work. Please do contact our sales department if you wish to buy some advertising space.“
– The Guardian
“Its like…a book for kids?“
– Mike’s friend
“You should have seen Mike’s cover illustrations before he asked me to do them. Seriously, it looked a toddler had gone wild on photoshop!“
– Mike’s Wife
“Mr. Reed, there’s no point sending another email pretending to be someone else, especially not when you use the same email address.”
– The Guardian
“Mate, I promise I’ll read it after I’ve finish this season of Game of Thrones.“
– Mike’s other friend
“The Guardian warned us about you.“
– Huffington Post